CYMRAEG I OEDOLION Canolfan Gwent / WELSH FOR ADULTS Gwent Centre
Llywodraeth Cynulliad Cymru / Welsh Assembly Government

Datganiad Diogelu Data

A fyddech cystal â nodi eich bod, drwy arwyddo'r ffurflenni cais a chofrestru, yn rhoi caniatâd pendant i'r data a gesglir amdanoch gael ei gofnodi a'i ddefnyddio ar gyfer y dibenion isod. Caiff data ei brosesu at ddibenion ariannu, ystadegol a gweinyddol sy'n gysylltiedig â'ch astudiaethau. Gall gwybodaeth berthnasol amdanoch chi mewn cysylltiad â'ch astudiaethau gael ei hanfon i sefydliadau eraill, megis byrddau arholi a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd. Ceidw'r Coleg yr hawl i gysylltu â'ch rhiant/gwarcheidwad (ar gyfer myfyrwyr o dan 18 oed) neu gyflogwr (os mai’r cyflogwr sy'n talu eich ffioedd) ynglŷn â'ch cynnydd. Bydd y data a gesglir yn ddarostyngedig i Ddeddf Diogelu Data 1998.

Caiff y wybodaeth amdanoch chi ei hanfon i'r Cyngor Cenedlaethol ar Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru - Elwa. Caiff eich cofnod ei ychwanegu at gronfa ddata a ddefnyddir i drosglwyddo gwybodaeth, ar ffurf nad sy'n caniatáu i'r dysgwr gael ei adnabod, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, adrannau ac asiantaethau llywodraeth ganolog sydd ei angen i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Deddfau Addysg. Gall hefyd gael ei ryddhau i ddefnyddwyr cymeradwyedig eraill. Gall y rhain gynnwys ymchwilwyr academaidd a chyrff masnachol.

Gall gwybodaeth sy'n deillio o'r data gael ei chyhoeddi ond ni chynhwysir eich enw mewn unrhyw ddadansoddiad ystadegol neu gyhoeddiad arall. Cymerir camau rhagofal i leihau'r risg y gellir eich adnabod o'r data. Ni fydd defnyddwyr y data yn gallu defnyddio'r data i gysylltu â chi.

Efallai y bydd ELWa hefyd am ddefnyddio'r data i gysylltu â chi ar gyfer gweithgareddau dilynol neu i roi manylion cyfleoedd dysgu pellach. Rhaid iddynt gael eich caniatâd pendant i wneud hyn. Mae blwch ticio wedi ei gynnwys ar ffurflen gofrestru'r Coleg yn gofyn i chi a ydych yn cytuno i dderbyn gwybodaeth o'r fath.

Mae Coleg Gwent hefyd yn anfon manylion gweithgareddau ychwanegol a allai fod o ddiddordeb i fyfyrwyr. Rhaid i'r Coleg gael eich caniatâd pendant i wneud hyn. Mae blwch ticio wedi ei gynnwys ar ffurflen gofrestru'r Coleg yn gofyn i chi os ydych yn cytuno i dderbyn gwybodaeth o'r fath.

O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennych hawl i gael copi o'r data a ddelir amdanoch gan y Coleg neu ELWa, a gellir codi ffi fechan am hyn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'r defnydd o'r data at y dibenion uchod ysgrifennwch at y Swyddog Diogelu Data, Coleg Gwent, Pencadlys, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1XJ. Os oes gennych ymholiadau ynglŷn ag ELWa ewch i www.ELWa.org.uk neu ysgrifennwch at y Gwasanaethau Data a Dadansoddol, ELWa, Cwrt Linden Y Berllan, Clos Ilex Llanisien, Caerdydd CF14 5DZ.

Mae gan y Coleg gofrestriad cyfoes yn y Gofrestr Diogelu Data (www.dataprotection.gov.uk).

Mae Polisi Diogelu Data Coleg Gwent ar gael ar fewnrwyd y Coleg ac yng Nghanolfannau Adnoddau Dysgu y Coleg.